Aliniad Olwynion

Yn Garej Arwyn’s Garage, mae gennym y dechnoleg a’r offer i alinio pedair olwyn eich cerbyd.

Bydd ein dyfais alinio laser pedair olwyn yn sicrhau bod eich olwynion wedi’u halinio’n gywir. Byddwn yn rhoi adroddiad geometreg i chi i dawelu eich meddwl bod eich olwynion wedi’u halinio’n gywir. Rydym ni hefyd yn gwirio crogiant eich car a thraul eich olwynion, i sicrhau bod eich cerbyd yn ddiogel i’w yrru.